Canolfan Uwch Ddeunyddiau Dennison
Astudiaethau Achos
Isod byddwch yn dod o hyd i astudiaeth achos yn sgil y gwaith yr ydym wedi ei wneud gyda'r diwydiant wrth deilwra cyrsiau i fodloni anghenion unigol.
Astudiaeth Achos 1:
Safran Aerospace
Gweithiom yn agos gyda Safran Aerospace (Zodiac cynt) wrth deilwra ein cwrs Cyflwyniad i Gyfansoddion er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol i gyflogeion Safran. Roedd hyn yn cynnwys taith o amgylch y safle, sawl cyfarfod a grŵp ffocws gyda chyflogeion i sicrhau bod y cynnwys a gynigwyd gennym yn berthnasol i'w prosesau gweithgynhyrchu a'u cynnyrch. Roedd hyn yn caniatáu i gyflogeion wneud cysylltiadau'n haws rhwng theori, ymarfer a'u rôl unigol o fewn y cwmni. Edrychwch i weld beth oedd ganddynt i'w ddweud mewn fideo hyrwyddo Safran yn ddiweddar.
Rydym yn falch o fod yn ddarparwyr hyfforddiant ym maes cyfansoddion i Safran Aerospace ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu'r bartneriaeth. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael un o'n cyrsiau wedi ei deilwra i anghenion unigol eich cwmni, cysylltwch â ni.
Angen mwy o fanylion? Cysylltwch â ni
Rydym yma i'ch cynorthwyo. Cysylltwch â ni dros y ffôn, drwy e-bost neu ein sianeli Cyfryngau Cymdeithasol.
© 2019 gan Coleg Gwent
DAMC, Coleg Gwent
Rhodfa Calch
Blaenau Gwent
Glyn Ebwy
NP23 6GL